Croeso i Theatr y Pafiliwn
Cyfeillion y Pafiliwn
Ymunwch yn awr i fwynhau disgownt arbennig ar sioeau penodedig a llawer o fanteision eraill.
Amdanom Ni
Y Theatr Pafiliwn presennol yw’r trydydd Pafiliwn yn Y Rhyl, mewn gwirionedd. Lleolwyd y Pafiliwn cyntaf ym mhen y promenâd o Bier Y Rhyl gyda lle i 3,000 eistedd ynddo. Fe’i hadeiladwyd yn 1891, ac fe’i dinistriwyd gan dân yn 1901. Adeiladwyd yr ail Bafiliwn yn 1908 ac fe gostiodd £16,500 a gallai ddal ychydig dros 1,000. Fe roddodd wasanaeth mawr i’r Rhyl drwy roi llwyfan i artistiaid rhyngwladol, a chyflwyno nifer helaeth o gynyrchiadau a digwyddiadau cymunedol arwyddocaol. Pan ddymchwelwyd y Pafiliwn yn 1974 roedd pawb yn y dref yn ei gymharu â “cholli ffrind mynwesol”. Pan agorwyd y Pafiliwn presennol yn 1991 roedd yn cyflenwi ymrwymiad a wnaethpwyd gan y Cyngor Bwrdeistref fel yr oedd bryd hynny, ddwy flynedd ar bymtheg yn gynharach.
Wedi ei leoli ar yr East Parade ar y ffrynt ger y môr yn Y Rhyl, mae Theatr y Pafiliwn yn endid hunangynhwysol, sydd wedi ei gysylltu ag adeilad cyffiniol, Canolfan Haul Y Rhyl (cyfleuster hamdden ac atyniad parc dŵr a reolir gan Clwyd Leisure Ltd). Cyngor Sir Ddinbych sy’n berchen ar y pafiliwn ac yn ei reoli. Fe ddyluniwyd y theatr sydd â 1,031 o seddi i ddal cynulleidfaoedd theatr a chyngherddau cerddorfaol. Mae gan y Pafiliwn 20 o staff parhaol a 18 aelod staff achlysurol, a thîm craidd o tua 25 o wirfoddolwyr.
O ran llunio rhaglen, mae Theatr y Pafiliwn yn ymfalchïo yn y ffaith y gall, fel ei ragflaenwyr, ddenu artistiaid o safon fyd-eang fel Bryn Terfel a Katherine Jenkins a chael Sioeau Cerdd y West End yn chwarae am wythnos ac ar yr un pryd gall gymryd a hyrwyddo Theatr yn y Gymuned, Dawns Gymunedol a grwpiau cymunedol bywiog eraill. Dywed datganiad o fwriad Theatr y Pafiliwn, “mae’r celfyddydau i bawb eu profi a’u mwynhau, a bydd yn bositif yn annog cyrchiad i’r profiadau hynny ar gyfer holl aelodau’r gymuned.”.
Caiff Theatr y Pafiliwn ei chydnabod gan y Cyngor Celfyddydau fel rhan o rwydwaith o ganolfannau rhanbarthol y celfyddydau perfformio ar draws Cymru.
Mae Arolygon Cwsmeriaid a gynhaliwyd yn dangos diddordeb lleol cryf, a bod ymwelwyr yn cael eu denu o Ogledd Cymru gyfan, ardal gororau Swydd Caer a thu hwnt.
Roedd y Pafiliwn yn falch o lwyfannu perfformiadau cyntaf Gogledd Cymru o sioeau cerdd y West End, Saturday Night Fever, Footloose, Flashdance a Never Forget.
Mae’n ffaith fod mwy o bobl ifanc yn pleidleisio mewn cystadlaethau X Factor nag mewn Etholiadau Cyffredinol, ac roedd y Pafiliwn yn falch o groesawu Rhydian yma ym mis Ebrill eleni ac mae’n edrych ymlaen at groesawu JLS ym mis Ionawr 2010.
Ym mis Tachwedd 2008, yn rhan o’i hyrwyddiad o ddiwylliant Cymreig, cynhaliodd y Pafiliwn Yr Å´yl Gerdd Dant, gŵyl ddiwylliannol undydd fwyaf Cymru (digwyddiad cenedlaethol sy’n cael ei ddarlledu) a oedd yn ymglymu dros 1,200 o gystadleuwyr, a 12 o gystadlaethau Cerdd Dant amrywiol (ffurf unigryw o ganu penillion i gyfeiliant telyn) ar gyfer pob oed. Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnal cystadlaethau canu gwerin, dawnsio gwerin ac adrodd i gyfeiliant telyn.
Y llynedd, i gefnogi’r Celfyddydau a Phobl Ifanc, fe hyrwyddodd y Theatr ystod sylweddol o weithgareddau yn cynnwys: rhaglen o 5 o ddigwyddiadau addysg/cyfranogiad ysgolion a phobl ifanc gyda 32 o ysgolion unigol yn cyfrannu ar draws Sir Ddinbych; 5 o brosiectau Dawns Ieuenctid gyda chynulleidfa o 6,549; 3 o brosiectau Theatr Ieuenctid a ddenodd gynulleidfa o 5,010; Cystadleuaeth Canwr Cerddorol Ifanc 500+ o gyfranogwyr; Gwyl Celfyddyd mewn Ysgolion Sir Ddinbych gyda thros 1,000 o gyfranogwyr. Cofnodwyd cynulleidfaoedd o tua 11,559 i gyd mewn perfformiadau ieuenctid yn y cyfnod.
Yn ogystal â’r uchod bydd y Pafiliwn yn trefnu rhaglenni o amrediad eang o weithgareddau’n cynnwys pob ‘genre’ theatr – o Gyngherddau Cerddorfaol a Ballet i Ddawns Gyfoes a Digrifwyr ar eu Sefyll.
Yn y cyfnod 2008/9, cafodd y theatr ddau o asesiadau monitro ansawdd annibynnol positif o’i berfformiadau, gan Swyddogion y Cyngor Celfyddydau a Chynghorwyr Cenedlaethol.
Mae gweithrediad y Pafiliwn â ffocws cryf sy’n canolbwyntio ar y person ac mae hynny’n gwneud i’r cwsmeriaid deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Roedd y ffaith fod y Pafiliwn yn eiddo i’r bobl ac yn cael ei gwerthfawrogi ganddynt, yn amlwg yn 2008, pan arwyddwyd deiseb gan 23,000 o bobl yn erbyn bygythiad o leihad yn ariannu’r theatr.
Menter amlwg ac arwyddocaol i Theatr y Pafiliwn yn ystod 2008, oedd comisiynu adroddiad annibynnol Astudiaeth Effaith Economaidd a Chymdeithasol ar Theatr Pafiliwn Y Rhyl gan Yr Athro Dominic Shellard o Brifysgol Sheffield. Dangosodd yr adroddiad bod y lleoliad wrth y môr yn helpu i gynhyrchu dros £4miliwn bob blwyddyn ar gyfer yr economi leol a bod ei phwyslais ar ymglymiad gyda’i chymuned leol yn cynhyrchu effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol i dref Y Rhyl, arfordir Gogledd Cymru a Chymru gyfan.
