Croeso i Theatr y Pafiliwn
Cyfeillion y Pafiliwn
Ymunwch yn awr i fwynhau disgownt arbennig ar sioeau penodedig a llawer o fanteision eraill.
Cyfarwyddiadau penodol i Theatr y Pafiliwn (Tab/ffenestr newydd yn agor)
Cyfarwyddiadau o'r A55
Osgoi Canol Tref Y Rhyl.
Gadewch yr A55 yng Nghyffordd 27 (Llanelwy) ac o droi i'r dde yn y gylchfan dilynwch yr arwyddion am Y Rhyl (A525). Ymlaen ar hyd y ffordd ddeuol gan ddilyn arwyddion Y Rhyl. Yng nghylchfan Sainsbury’s ewch yn syth ymlaen i'r gylchfan nesaf sy'n llai ac ymlaen yn syth gan ddal i ddilyn arwyddion Y Rhyl.
Cymrwch y 10fed troad ar y dde i Prince Edward Avenue. Cymrwch y 5ed troad ar y chwith i Grange Road (B5119). Dilynwch y ffordd ar draws Pont Grange Road ac wrth droes y bont wrth i'r ffordd fynd rownd i'r chwith, trowch i'r dde i Ffordd Brighton. Dilynwch y ffordd rownd wrth iddi droi i'r chwith i Churton Road. Yn y groesffordd nesaf ewch yn syth ymlaen i Stryd Llanelwy. Yn y gyffordd T trowch i East Parade (B5118).
Mae Theatr y Pafiliwn yn awr ar y chwith wrth ymyl y Ganolfan Haul. Parcio am ddim ar gael yn y maes parcio ar y dde i'r Theatr.
