Croeso i Theatr y Pafiliwn

Find us on Facebook

Cyfeillion y Pafiliwn

Ymunwch yn awr i fwynhau disgownt arbennig ar sioeau penodedig a llawer o fanteision eraill.

Mwy o wybodaeth...

Tanysgrifiwch

i’n E-newyddlen.

› Tanysgrifio

Ffrindiau'r Pafiliwn

Fel "cyfaill y theatr" mae gostyngiad arbennig o £2.00 ar gael ar nifer helaeth o berfformiadau dethol, mae'r gostyngiad hwn yn gyfyngedig i aelodau o'r "cyfeillion" ac mae dwywaith yn fwy na'r gostyngiadau arferol. Fe all hyn olygu arbedion mawr i gefnogwyr rheolaidd y theatr.

Manteision eraill o ymaelodi â'r cyfeillion yw cael blaenoriaeth wrth archebu tocynnau ar gyfer perfformiadau dethol ynghyd â llythyr newyddion chwarterol yn rhoi gwybodaeth am y perfformiadau sydd i ddod oddeutu mis cyn llyfryn y theatr.

Mae'r cyfeillion hefyd yn trefnu nifer o achlysuron cymdeithasol gan gynnwys PARTÏON AR ÔL perfformiadau gyda'r SÊR a GWIBDEITHIAU i weld cynyrchiadau o bwys mewn theatrau eraill.

Tâl Aelodaeth Cyfeillion

Aelodaeth Safonol ~ £8.00

Aelodaeth Ar Y Cyd ~ £12.00

Aelodaeth Teulu ~ £15.00

Mae'n hawdd iawn ymuno - cysylltwch â Swyddfa Docynnau'r Theatr ar 01745 330 000

Bydd eich cefnogaeth chi yn ein galluogi ni i gynnal a gwella ein theatr yn barhaol ar gyfer cwsmeriaid a pherfformwyr.