Amdanom ni
Lleolir y theatr ar lan y môr y Rhyl, sydd â golygfeydd godidog o arfordir Gogledd Cymru, ar draws Eryri a thu hwnt. Mae ein theatr sydd wedi ennill gwobrau yn cynnwys ‘Bwyty a Bar 1891’ wedi’i leoli ar y llawr cyntaf. Os ydych eisiau diod i ymlacio, swper hir, swper cyn y theatr neu ginio sydyn, mae gan 1891 rywbeth i bawb.
Cafodd y theatr 1,031 o seddi ei chynllunio i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o gynyrchiadau o bob genre. Mae rhaglen y Pafiliwn yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau – mae cynyrchiadau diweddar wedi cynnwys Mrs Brown’s Boys, Chicago, Little Mix, Olly Myrs a John Bishop, a llawer mwy. Yn ogystal â chynyrchiadau mawr, mae Theatr Y Pafiliwn wedi ymrwymo i hwyluso theatr a dawns yn y gymuned yn ogystal â chynyrchiadau ysgol.
Ein Cenhadaeth: “Rydym yn Theatr y Pafiliwn yn credu bod y celfyddydau ar gyfer pawb i’w brofi a mwynhau, a byddwn yn annog yn gadarnhaol mynediad i’r profiadau hynny i holl aelodau o’r gymuned ac o fewn y gyllideb a ddyrannwyd.”
Rheolir Theatr y Pafiliwn gan yr Adran Hamdden Sir Ddinbych o fewn Cyngor Sir Ddinbych.