Canllawiau Covid-19
Croeso yn ôl i Theatr y Pafiliwn, Rhyl. Rydyn ni yn gyffrous iawn bod ein Theatr boblogaidd yn gallu agor eto.
Trwy gydol y pandemig, mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn ein holl gyfleusterau, a diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff yw ein prif flaenoriaeth.
Yn unol â’r cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ni fydd angen i chi ddod â’ch Pas Covid pan fyddwch chi’n cyrraedd y theatr ac, o 28 Chwefror, ni fydd angen i chi wisgo gorchudd wyneb mwyach.
Peidiwch â mynychu os gwelwch yn dda os ydych yn teimlo’n sâl gydag unrhyw un o’r symptomau Covid-19 a nodwyd, wedi profi’n bositif am COVID-19 neu wedi cael eich gofyn i hunan-ynysu.
Sylwch y gall y mesurau hyn newid yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, felly gwiriwch yn ôl yma cyn eich ymweliad.