-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: Oedolion £25, Dan 14 oed £15, Tocyn Teulu £72 ( 2 oedolyn 2 plentyn)
Yn dilyn ei thaith hynod lwyddiannus yn 2022, mae Bronwen yn ôl gyda ‘More From The Living Room’. Gan ail-greu hud ei gigs rhithiol yn fyw ar lwyfan, bydd Bronwen yn perfformio detholiad newydd o’i hoff ganeuon wedi’u cydblethu ag adrodd straeon annwyl. Mae hon yn argoeli i fod yn noson na ellir ei cholli o adloniant byw.
Mae’r aml-offerynnwr a seren Tik-Tok yn arddangos repertoire amrywiol gan gynnwys detholiad newydd o’i chaneuon gwreiddiol. Gan ddod â’i steil dihafal o blethu’r Gymraeg â chaneuon poblogaidd, bydd Bronwen yn perfformio ei chaneuon poblogaidd o glasuron traddodiadol Cymreig a chaneuon cyfoes.
Mae gan y gyfansoddwraig o Gymru arddull hyfryd a chynnes sy’n eistedd rhwng Canu Gwlad, Pop, Gwerin a Blues. Mae’n falch o fod yn ddwyieithog a derbyniodd glod rhyngwladol yn ystod ei chyfnod ar The Voice ar y BBC pan ddaeth â Tom Jones i ddagrau. Roedd Bronwen hefyd yn serennu ac yn canu’r gân thema ‘Bread and Roses’ yn y ffilm ‘Pride’ a enillodd Wobr BAFTA.
Peidiwch â cholli allan! Archebwch nawr i fod yn rhan o Daith ‘More From The Living Room’ Bronwen Lewis!
-
Tickets / Tocynnau
£25, Dan 14 oed £15, Tocyn Teulu £72 ( 2 oedolyn 2 plentyn)
-
Schedule
Dydd Gwener 30 Mehefin, 2023 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
30 Mehefin 2023
7.30pm
Rhyl Pavilion