-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £26, consesiynau £24
Swan Lake – Y gorau o bob bale rhamantus
Cerddoriaeth gan Pyotr I. Tchaikovsky
Yn dilyn prif gynhyrchiad llwyddiannus y llynedd, mae Crown Ballet yn dychwelyd eleni i’r DU i’ch swyno gyda’r cynhyrchiad bendigedig o Swan Lake.
Mae Crown Ballet yn cyflwyno’r Bale mwyaf poblogaidd erioed. Mae Swan Lake yn un o gynyrchiadau gorau Tchaikovsky, sy’n cynnwys cerddoriaeth a dawns mwyaf cofiadwy bale.
Mae Swan Lake yn chwedl dwy ferch ifanc, Odette ac Odilie, sydd mor debyg i’w gilydd, gellir yn hawdd camgymryd un am y llall.
Mae’n glasur gymhellgar o ramant trasig sy’n adrodd hanes tywysoges, Odette, a gaiff ei throi’n alarch gan felltith gythreulig. Daw’r Tywysog Siegfried ar draws haid o elyrch wrth hela. Mae un o’r elyrch yn troi yn ferch ifanc hardd ac mae’r tywysog wedi’i hudo, ond fydd ei gariad o’n ddigon i dorri’r sbel dieflig?
Mae Swan Lake yn llawn dirgel a rhamant ac mae wedi dal dychymyg cenedlaethau dros y blynyddoedd ac mae’n parhau i ddenu cynulleidfaoedd ar draws y byd, yr hen a’r ifanc.
Noson allan fendigedig ac atgofion fydd yn aros yn y cof ymhell ar ôl i’r llen olaf ddod i lawr!
Am fwy o wybodaeth, gallwch ymweld â: www.crown-ballet.co.uk
-
Tickets / Tocynnau
£26, consesiynau £24
-
Schedule
Dydd Mercher 4 Hydref, 2023
-
Location / Lleoliad
04 Hydref 2023
7.30pm
Rhyl Pavilion