-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £32.00
Don’t Stop Believin’
Mae’r sioe ‘anthemau diwedd noson’ orau erioed yn dod i dref y Rhyl.
Yng ngeiriau’r artistiaid, “One way, or another, nothing’s gonna stop us now. . .” Mae’r sioe newydd sbon hon yn siŵr o wneud i chi deimlo’n dda a rhoi gwên ar eich wyneb wrth i chi ganu a gwrando ar eich hen ffefrynnau, un ar ôl y llall.
Dyma’r noson yr ydych wedi bod yn aros amdani – gan gynhyrchwyr y sioe boblogaidd Lost in Music – mae’r bechgyn a’r merched wedi dychwelyd i’r dref!
A’r tro hwn, yn fyw ar y llwyfan, byddant yn dod â cherddoriaeth Bryan Adams, Blondie, Cher, Rainbow, Bon Jovi, Kate Bush, Starship, Europe a Belinda Carlisle yn fyw. A dim ond y dechrau yw hynny!
Bydd y cynhyrchiad theatr trydanol a llawn egni a lliw hwn yn perfformio 30 o’r ‘anthemau diwedd noson’ mwyaf adnabyddus gyda chast syfrdanol, gwisgoedd gwych a sioe oleuadau anhygoel.
Mae’n bryd i chi anghofio’ch problemau a gwisgo’ch dillad gorau i fynychu’r parti mwyaf ERIOED!
Gyda chaneuon fel Summer of ’69, I Love Rock ‘n’ Roll, Eye of the Tiger, Livin’ on a Prayer, Sweet Child O’ Mine, China in Your Hand, You Shook Me All Night Long, Sweet Home Alabama a llawer mwy.
Mae’r sioe deithiol hon yn newydd sbon ar gyfer 2022 felly ewch i brynu eich tocynnau ar gyfer Don’t Stop Believin’ – The End-of-the-Night Anthems Show rŵan!
Cynhyrchiad gan Entertainers I bobl sy’n mwynhau sioeau, gan bobl sy’n mwynhau sioeau.
Cartref rhai o gynyrchiadau mwyaf blaenllaw y wlad gan gynnwys The Magic of Motown, Fastlove, Lost in Music, Radio GaGa, Thank you for the Music, The Rocket Man a llawer mwy.
-
Tickets / Tocynnau
£32.00
-
Schedule
Dydd Sadwrn 3 Mehefin, 2023 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
03 Mehefin 2023
7.30pm
Rhyl Pavilion