Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £11.00
Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau
Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau
Gan Mererid Hopwood
Cerddoriaeth gan Seiriol DaviesMae pawb yn gyffro i gyd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn Ysgol Gwaelod y Garn. Ond mae’r plant ar fin cael newyddion drwg… mae’r ysgol yn mynd i GAU!
Wrth i Alfred, Elen a’u ffrindiau geisio meddwl am ffordd o achub eu hysgol fach, mae athrawes newydd a braidd yn llym yr olwg yn cyrraedd: Miss Prydderch. Ond cyn hir, daw hi’n amlwg ei bod hi’n athrawes anghyffredin o arbennig. Os gall unrhyw un helpu’r plant i achub yr ysgol, Miss Prydderch yw’r un!
Mewn sioe sy’n llawn dop o ddireidi, dychymyg a cherddoriaeth, cewch deithio gyda dosbarth Miss Prydderch ar antur fythgofiadwy lle mae’r ffrindiau’n trechu eu hofnau a darganfod pwysigrwydd codi eu lleisiau.
Dyma sioe gerdd hudolus newydd sy’n dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript newydd sbon gan Mererid Hopwood, a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies.
Whwsh! Bant â ni!
-
Tickets / Tocynnau
£11.00
-
Schedule
Dydd Mawrth 30 Mehefin, 2026 @ 10.00am
-
Location / Lleoliad



