
Frân Wen
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £17.50, consesiynau £12.50
1 athro am ddim i bob 10 disgybl, ar gael o’r Swyddfa Docynnau
Perfformiadau 14 Mai (10yb a 6yh) yn perfformiadau BSL a Sain Ddisgrifiad
Frân Wen
DEIAN A LOLI
Y RIBIDIREW OLAF
Da ni gyd yn gorfod tyfu i fyny rhywbryd. Neu ydan ni?
Mae hi’n ddiwrnod cyntaf Deian a Loli yn yr ysgol fawr!
Mae Deian wedi cyffroi’n lân ac ar ei draed ers cyn cŵn Caer – ond dydi Loli ddim
isio mynd.
Ar ben bob dim, mae goriadau’r car ar goll ac mae Loli’n mynnu mai eu ffrind
dychmygol sydd wedi eu dwyn nhw – er fod Mam, Dad a Deian yn dadlau nad ydi
ffrindiau dychmygol yn bod.
Mae Deian yn sylweddoli nad oes ganddo fawr o ddewis ond ymuno efo Loli i
ddweud y gair hud, a rhewi eu rhieni – gan fynd ar drywydd y goriadau coll ar antur
fwyaf eu bywydau.
A fyddan nhw’n llwyddo i ddod o hyd i’w ffrind dychmygol cyn iddo fo ddiflannu am
byth? A oes peryg iddyn nhw golli eu pwerau hudol wrth dyfu i fyny?
Dewch i brofi sioe theatrig gyntaf Deian a Loli wrth i’r efeilliaid direidus deithio i ben
draw dychmyg a thu hwnt. -
Tickets / Tocynnau
£17.50, consesiynau £12.50
1 athro am ddim i bob 10 disgybl, ar gael o’r Swyddfa Docynnau
-
Schedule
Dydd Mawrth 14 Mai @10yb & 6yh, Dydd Mercher 15 Mai @ 10yb
-
Location / Lleoliad