
Hometown Glory Candlelit Concert
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £31.00
Hometown Glory Candlelit Concert
The Award-winning Adele Tribute Starring Natalie Black
Hometown Glory – Cyngerdd Dan Olau Cannwyll
Teyrnged Benigamp i Adele gyda Natalie Black
Noswaith ddiddos dros ben – cyngerdd dan olau cannwyll o ganeuon hyfryd Adele, a phopeth wedi’i berfformio’n fyw ar y llwyfan.
Bydd cerddorion amryddawn yn cyfeilio’n gelfydd wrth i Natalie Black arddangos ei doniau anhygoel.
Fe fydd yn wledd i’r synhwyrau, nid yn unig i selogion Adele ond unrhyw un a hoffai fwynhau noswaith arbennig o glasuron gwefreiddiol.
Mae Natalie wedi ennill gwobrau lu am ei pherfformiadau a dyma’r un mwyaf teimladwy ganddi eto, yn ehangu’r cynhyrchiad moethus – a fu’n teithio o amgylch y byd ers 2011 – i gyrraedd lefel gyfareddol newydd.
Does neb yn debycach i Adele na Natalie yn ei llais a’i golwg, a bydd hon yn noson i’w chofio.
Fe glywch chi eich holl hoff ganeuon gan Adele o’i phedwar o recordiau platinwm, gan gynnwys: Set Fire to the Rain, Make You Feel my Love, Someone Like You, I Drink Wine, a llawer iawn mwy.
Ar y llwyfan bydd rhai o’r cerddorion mwyaf dawnus yn y busnes, creadigaethau rhai o’r gwneuthurwyr gwisgoedd mwyaf blaenllaw yn y byd, trefniannau cerddorol bendigedig a safon cynhyrchiad heb ei ail. Mae’r llwyfan yn barod am lais perffaith Natalie.
Byddwch yn barod am fwy na dim ond noswaith chwaethus o gerddoriaeth anhygoel – a ffrogiau bendigedig Adele! – a mwynhau noson hwyliog a thwymgalon wrth i bersonoliaeth ddihafal y gantores ddod yn fyw ar y llwyfan – a storïau cain yn rhedeg drwy’r cyfan. Fe gewch chi glywed chwerthiniad enwog Adele, hyd yn oed!
Nid ar chwarae bach y mae Natalie’n ymdebygu mor agos i Adele ac yn sgil hynny mae hi wedi ymddangos droeon ar y teledu, gan gynnwys cameo yn y ffilm boblogaidd Greed yn 2020 gyda Steve Coogan, ymddangos ar This Morning ar ITV a’r fideo i gân rhif 1 y Nadolig gan LadBaby.
Felly dewch i weld beth sy’n achosi’r cyffro i gyd a chymryd rhan mewn noson o hwyl a difyrrwch pur.
-
Tickets / Tocynnau
£31.00
-
Schedule
Dydd Sadwrn 30 Awst, 2025 @ 7.30
-
Location / Lleoliad