-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £45.50, £35.50, £28.00
SJM CONCERTS PRESENTS
John Bishop – Back At It
Over 14’s only
Mae’r seren gomedi John Bishop yn ychwanegu dyddiadau eraill i’w daith gomedi stand-yp ‘Back At It’ ar hyd a lled y DU ac Iwerddon yn dilyn galw anferthol am docynnau.
Bydd y sioeau ychwanegol, sy’n gwneud cyfanswm o 85 sioe i gyd – yn cynnwys nifer o sioeau â dehonglydd arwyddo BSL – yn ymestyn y daith i 2025. Bydd y tocynnau ar werth o 10.00am ddydd Gwener 22 Mawrth ar JohnBishopOnline.com ar gyfer sioeau yn Weymouth, Portsmouth, Southampton, Y Rhyl, High Wycombe, Brighton, Worthing, Nottingham, Reading, Chatham, Llandudno, Sheffield, Bryste, Bath, Torquay a Truro.
Ar ôl dwy flynedd yn cyflwyno ar y teledu, actio ar lwyfannau, cynnal podlediadau, mynd â’r ci am dro ac addurno’r ystafell sbâr, mae John yn ôl yn gwneud yr hyn mae’n ei garu fwyaf; sefyll ar lwyfan a gwneud i bobl chwerthin.
Meddai John: “Rydw i’n falch iawn o ychwanegu’r dyddiadau hyn at fy nhaith ‘Back At It’. Dechreuodd y sioeau tua 10 niwrnod yn ôl – mae’r awen yn llifo eto ac mae’r ymateb gan gynulleidfaoedd yn anhygoel. Rydw i’n edrych ymlaen at weld llawer mwy ohonoch ar y daith.”
Mae John Bishop wedi cael gyrfa anhygoel. Dair blynedd ar ôl ei gig gomedi gyntaf erioed yn 2000, roedd John yn perfformio mewn sioeau oedd yn gwerthu allan ar draws y wlad a rhyddhaodd y DVD stand-yp sydd wedi gwerthu gyflymaf yn hanes y DU.
Ers hynny mae wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda nifer o’i sioeau comedi, adloniant a rhaglenni dogfen ei hun yn cynnwys: ‘John Bishop’s Australia’ (BBC1), ‘John Bishop’s Britain’ (BBC1); ‘John Bishop’s Only Joking’ (Sky1); ‘The John Bishop Show’ (BBC1); ‘The John Bishop Christmas Show’ (BBC1) a ‘John Bishop’s Gorilla Adventure’ (ITV1), ‘John Bishop’s Ireland’ (ITV1) a phedair cyfres o’r rhaglen sydd wedi cael canmoliaeth fawr, ‘John Bishop: In Conversation With…’ (W Channel) ble roedd yn sgwrsio â rhai o enwau mwyaf y byd adloniant, cerddoriaeth a chwaraeon. Ymhlith rhai o’i lwyddiannau eraill mae dwy gyfres o ‘The John Bishop Show’ (ITV1), ‘Doctor Who’ (BBC1) a’r rhaglen ddogfen ‘John & Joe Bishop: Life After Deaf’ (ITV1).
Mae John hefyd yn gyd-gyflwynydd y podlediad Three Little Words, gyda’r ysgrifennwr, actor a chyfarwyddwr Tony Pitts. Mae’r ddau ffrind yn siarad â phobl ddiddorol iawn am eu bywydau, gobeithion, trafferthion a chredoau. Mae’r sioe’n cynnwys amrywiaeth gyfoethog o westeion, o gerddorion ac actorion byd eang i wyddonwyr, gwleidyddion, artistiaid a sêr y byd chwaraeon. Ymhlith y gwesteion o’r gorffennol mae Robbie Williams, John Cleese, Sebastian Faulks a’r Athro Brian Cox.
Y llynedd, serennodd John yn Mother Goose, taith pedwar mis ar hyd a lled y DU a’r Iwerddon gydag Ian McKellen, oedd yn cynnwys cyfnod llwyddiannus iawn yn y West End yn Llundain.
-
Tickets / Tocynnau
£45.50, £35.50, £28.00
-
Schedule
Dydd Gwener 21 Chwefror, 2025 @ 8pm
-
Location / Lleoliad
21 Chwefror 2025
8pm
Rhyl Pavilion