21 Chwefror 2025 8pm Rhyl Pavilion
  • Info / Gwybodaeth

    Prisiau Tocynnau: £45.50, £35.50, £28.00

    SJM CONCERTS PRESENTS

    John Bishop – Back At It

    Over 14’s only

    Mae’r seren gomedi John Bishop yn ychwanegu dyddiadau eraill i’w daith gomedi stand-yp ‘Back At It’ ar hyd a lled y DU ac Iwerddon yn dilyn galw anferthol am docynnau.

    Bydd y sioeau ychwanegol, sy’n gwneud cyfanswm o 85 sioe i gyd – yn cynnwys nifer o sioeau â dehonglydd arwyddo BSL – yn ymestyn y daith i 2025.  Bydd y tocynnau ar werth o 10.00am ddydd Gwener 22 Mawrth ar JohnBishopOnline.com ar gyfer sioeau yn Weymouth, Portsmouth, Southampton, Y Rhyl, High Wycombe, Brighton, Worthing, Nottingham, Reading, Chatham, Llandudno, Sheffield, Bryste, Bath, Torquay a Truro.

    Ar ôl dwy flynedd yn cyflwyno ar y teledu, actio ar lwyfannau, cynnal podlediadau, mynd â’r ci am dro ac addurno’r ystafell sbâr, mae John yn ôl yn gwneud yr hyn mae’n ei garu fwyaf; sefyll ar lwyfan a gwneud i bobl chwerthin.

    Meddai John: “Rydw i’n falch iawn o ychwanegu’r dyddiadau hyn at fy nhaith ‘Back At It’.  Dechreuodd y sioeau tua 10 niwrnod yn ôl – mae’r awen yn llifo eto ac mae’r ymateb gan gynulleidfaoedd yn anhygoel. Rydw i’n edrych ymlaen at weld llawer mwy ohonoch ar y daith.”

    Mae John Bishop wedi cael gyrfa anhygoel. Dair blynedd ar ôl ei gig gomedi gyntaf erioed yn 2000, roedd John yn perfformio mewn sioeau oedd yn gwerthu allan ar draws y wlad a rhyddhaodd y DVD stand-yp sydd wedi gwerthu gyflymaf yn hanes y DU.

    Ers hynny mae wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda nifer o’i sioeau comedi, adloniant a rhaglenni dogfen ei hun yn cynnwys: ‘John Bishop’s Australia’ (BBC1), ‘John Bishop’s Britain’ (BBC1); ‘John Bishop’s Only Joking’ (Sky1); ‘The John Bishop Show’ (BBC1); ‘The John Bishop Christmas Show’ (BBC1) a ‘John Bishop’s Gorilla Adventure’ (ITV1), ‘John Bishop’s Ireland’ (ITV1) a phedair cyfres o’r rhaglen sydd wedi cael canmoliaeth fawr, ‘John Bishop: In Conversation With…’ (W Channel) ble roedd yn sgwrsio â rhai o enwau mwyaf y byd adloniant, cerddoriaeth a chwaraeon. Ymhlith rhai o’i lwyddiannau eraill mae dwy gyfres o ‘The John Bishop Show’ (ITV1), ‘Doctor Who’ (BBC1) a’r rhaglen ddogfen ‘John & Joe Bishop: Life After Deaf’ (ITV1).

    Mae John hefyd yn gyd-gyflwynydd y podlediad Three Little Words, gyda’r ysgrifennwr, actor a chyfarwyddwr Tony Pitts. Mae’r ddau ffrind yn siarad â phobl ddiddorol iawn am eu bywydau, gobeithion, trafferthion a chredoau. Mae’r sioe’n cynnwys amrywiaeth gyfoethog o westeion, o gerddorion ac actorion byd eang i wyddonwyr, gwleidyddion, artistiaid a sêr y byd chwaraeon. Ymhlith y gwesteion o’r gorffennol mae Robbie Williams, John Cleese, Sebastian Faulks a’r Athro Brian Cox.

    Y llynedd, serennodd John yn Mother Goose, taith pedwar mis ar hyd a lled y DU a’r Iwerddon gydag Ian McKellen, oedd yn cynnwys cyfnod llwyddiannus iawn yn y West End yn Llundain.

     

    Book your pre-theatre meal
    Book Tickets

  • Tickets / Tocynnau

    £45.50, £35.50, £28.00

  • Schedule

    Dydd Gwener 21 Chwefror, 2025 @ 8pm

  • Location / Lleoliad

Register Now

Register Now

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google