-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £33.50
MOTHERS OF THE BRIDES
‘MOTHERS OF THE BRIDES’
3 Mam. 3 Priodferch. 3 Priodas.
Sut fyddant yn goroesi hyn heb angladd?
Gan awduron y comedïau poblogaidd ‘Hormonal Housewives’ a ‘Girls Just Wanna Have Fun’.
Fe’ch gwahoddir chi i gyfarfod Mamau’r Priodferched – tair gwraig sy’n ffrindiau gorau sydd at eu clustiau mewn neithiorau, a sy’n cyfeirio eu merched ar hyd y llwybr tuag at wynfyd priodasol. Mae’r tair gwraig yn gwneud eu gorau i gadw’r anhrefn priodasol cyn lleied â phosibl ac osgoi anghytuno dros briodas.
Gall priodasau fod yn wallgof, rhyfedd neu’n barchus, ond maent i gyd yn rhyfeddol o unigryw ac mae mamau’r priodferched yn gwybod popeth amdanynt. O ffrogiau bendigedig i westeion hunllefus. O ategolion trafferthus i’w gwisgo ar y pen i goreograffi cwbl amhosibl ar gyfer y Ddawns Gyntaf. Mae’r merched hyn wedi cyrraedd y copaon ac wedi trechu peryglon cynllunio priodasau.
Mae ‘Mothers of the Brides’ yn daith llawn hwyl, sgetsh, cellwair a chwerthin drwy’r ddrysfa briodasol o dywys eich plentyn at yr allor… Sut mae’r mamau yn llwyddo i wneud hyn?
P’un ai oes gennych chi briodas ar y gweill neu os nad ydych chi fyth eisiau priodi eto fe fydd ‘Mothers of the Brides’ yn sicr o wneud i chi chwerthin wrth gerdded at yr allor!
Os ydych chi’n barod i chwerthin ac yn awyddus i gael noson allan wych i’w chofio yna cadwch y dyddiad yn rhydd ar gyfer ‘Mothers of the Brides’.
-
Tickets / Tocynnau
£33.50
-
Schedule
Dydd Gwener 2 Mawrth, 2025 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
21 Mawrth 2025
7.30pm
Rhyl Pavilion