17 Gorffennaf 2022 5pm Rhyl Pavilion
  • Info / Gwybodaeth

    Prisiau Tocynnau:  Oedolion £27, Plant £17

    10 MLYNEDD ANHYGOEL O ALOUD!  

    Dathlu 10 mlynedd o’r Elusen Aloud

    Yn 2022 mae 10fed pen-blwydd yr Elusen Aloud, y sefydliad tu ôl i Only Boys Aloud, ac mae Dwy Gyngerdd Gala wedi eu cyhoeddi i ddathlu’r garreg filltir sylweddol hon.

    Bydd y cyngherddau’n cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar ddydd Sul 3 Gorffennaf 2022 ac ym Mhafiliwn y Rhyl ar ddydd Sul 17 Gorffennaf 2022, am 5pm.  Mae tocynnau ar werth trwy Ticketmaster.co.uk ac yn swyddfa docynnau’r ddau leoliad. Bydd tocynnau sydd wedi eu prynu yn flaenorol ar gyfer y cyngherddau gwreiddiol yn ddilys ar gyfer y dyddiadau sydd wedi eu haildrefnu. Am unrhyw ymholiadau eraill mewn perthynas â thocynnau, cysylltwch a’ch lleoliad prynu.

    Ym mis Mawrth 2010, lansiwyd Only Boys Aloud fel menter newydd i gael bechgyn i ganu yng Nghymru, gan roi bywyd newydd i’r traddodiad o Gorau Meibion Cymreig ac ysbrydoli bechgyn yn eu harddegau i ddarganfod hyder, cymuned, mwynhad a chyfeillgarwch drwy ganu. Dim clyweliad, dim ffi ac roedd cynwysoldeb yn, ac yn parhau i fod, yn ganolog i’r cynllun.

    Gyda 15 o gorau yn gweithio mewn rhai o ardaloedd gyda’r amddifadedd mwyaf yng Nghymru, mae sôn am y ffenomenon hon wedi lledaenu ledled y byd. Mae ymhell dros 30 miliwn wedi gweld y clip o glyweliad y bechgyn ar gyfer Britain’s Got Talent ar YouTube ac mae negeseuon yn cael eu gosod bron yn ddyddiol ar eu gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol o bob cwr o’r byd.

    Mae OBA wedi mynd o nerth i nerth, gan sicrhau 3ydd lle nodedig yn Britain’s Got Talent  ar ITV yn 2012, perfformio ym Mhalas Buckingham  yn 2013 i ddathlu 60 mlynedd ers y coroni, lansio Llong Bleser newydd sbon y Royal Caribbean, arwyddo cytundeb albymau gyda Sony a llawer, llawer mwy.

    Ar ôl ei sefydlu yn 2012, mae’r Elusen Aloud wedi ymgysylltu â mwy na 1,000 o fechgyn drwy gorau Only Boys Aloud yng Ngogledd, De a Gorllewin Cymru, ac maent hefyd wedi creu Only Kids Aloud, Academi Only Boys Aloud a Merched Aloud Girls. Ar gyfer y cyngherddau arbennig hyn, byddent yn dod â’r holl grwpiau ynghyd am y tro cyntaf erioed. Bydd rhai o’r bechgyn a phlant gwreiddiol hefyd yn mynychu i berfformio ar y cyd â’r corau Aloud.

    Gyda chantorion ifanc o bob cwr o Gymru, ymunwch â ni wrth iddyn nhw ddathlu degawd o gerddoriaeth ac atgofion gyda chyngherddau gala arbennig yng Nghaerdydd a’r Rhyl.

     

    Book your pre-theatre meal
    Book Tickets

  • Tickets / Tocynnau

    Oedolion £27, Plant £17

  • Schedule

    Dydd Sul 17 Gorffennaf, 2022 @ 5pm

  • Location / Lleoliad

Register Now

Register Now

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google