
Powerplay Musical Theatre Company present SHREK
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau:
Dydd Iau am 7pm, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn am 2pm a 7pm
Oedolion £18.50, Dan 18 £15, Dan 7 £12
Dydd Gwener am 2pm PERFFORMIAD HAMDDENOL
Oedolion £14.00, Dan 18 £10
(Dim babanod yn y breichiau)
Yn seiliedig ar stori a chymeriadau o’r ffilm animeiddio gan DreamWorks sydd wedi ennill Oscar®, mae’r cynhyrchiad digrif a thrawiadol yma’n troi byd y stori tylwyth teg ar ei ben mewn antur comedi sydd yn llawn canu, a llawn dawnsio.
Ymunwch â Shrek (Martyn Wickens) a’i Ful ffyddlon (Iwan Woodhead) wrth iddynt gychwyn ar ymgyrch i achub y Dywysoges Fiona (Charelle Tilley) o’i thŵr, sy’n cael ei warchod gan ddraig sydd â thor calon yn anadlu tân (Zahra Shamsi). Ychwanegwch yr Arglwydd Farquaad (Harvey Roberts) sydd yn fyr, giang o misffitiaid tylwyth teg a bisged digywilydd, ac mae gennych chi gymysgedd cymhellol o antur, chwerthin a rhamant, yn sicr o blesio cynulleidfaoedd o bob oedran!”
PERFFORMIAD HAMDDENOL DYDD GWENER, 2PM
Mae ein sioe Prynhawn Gwener yn berffaith i unrhyw un a fyddai’n elwa o amgylchedd perfformiad hamddenol – gan gynnwys y rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth, anabledd dysgu neu sensitifrwydd y synhwyrau.
BETH SY’N WAHANOL AM SIOE HAMDDENOL?
Fe fydd y golau ar y gynulleidfa ychydig yn fwy llachar fel nad ydw’n rhy dywyll a bydd y sain ychydig yn dawelach.
Fe allwch wneud sŵn yn ystod y sioe a chewch eich annog i ddangos eich emosiynau heb fod neb yn eich barnu.
Fe allwch fynd a dod o’r awditoriwm fel y mynnoch.
Os byddwch chi angen seibiant, fe allwch fynd i’r cyntedd i ymlacio yn ein parthau tawel.
Rydym yn gwneud mân newidiadau i’r goleuadau a’r sain (megis cymryd goleuadau strôb, synau uchel a’r pyrotechneg allan) fel bod y perfformiad yn fwy hygyrch os oes gennych chi sensitifrwydd y synhwyrau.
Fe fyddwn ni hefyd yn dod â rhai o’r cymeriadau allan cyn y sioe er mwyn helpu â’r broses ymgyfarwyddo.
Ond nid yw’r sioe na’r stori’n newid felly rydych chi’n dal i gael gweld y sioe gyfan!
-
Tickets / Tocynnau
Dydd Iau a Dydd Gwener am 7pm, Dydd Sadwrn am 2pm a 7pm
Oedolion £18.50, Dan 18 £15, Dan 7 £12
Dydd Gwener am 2pm PERFFORMIAD HAMDDENOL
Oedolion £14.00, Dan 18 £10
(Dim babanod yn y breichiau)
-
Schedule
Dydd Iau - Dydd Sadwrn am 7pm, Dydd Gwener & Dydd Sadwrn am 2pm
-
Location / Lleoliad