-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £27.00
PSYCHIC SALLY
Mae hoff seicig y wlad yn ôl ar daith! Mae Sally wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd hen ac ifanc mewn theatrau o amgylch y byd am fwy na 12 mlynedd. Bydd ei sioe’n eich rhoi ar flaen eich sedd, wrth iddi barhau i ddod â chyfryngu i’r 21ain ganrif. Boed rhywun yn ei hadnabod hi o’i chyfres deledu enwog, drwy ei gwylio ar Celebrity Big Brother neu drwy ddarllen un o’i llyfrau hynod boblogaidd, does dim byd fel gweld Sally yn fyw ar y llwyfan.
Mae Sally yn egluro: “Mae fy nhaith i wedi bod yn ffordd o fyw i mi. Wrth i mi fynd yn hŷn, mae fy ngallu fel cyfryngwr yn gryfach nag erioed, felly mae gallu trosglwyddo negeseuon i’r cynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad yn fraint enfawr, ac yn bleser. Rydw i’n galw pob neges sy’n cael ei chadarnhau’n ‘eiliad o ryfeddod’. Felly cymerwch eich sedd, ymlaciwch, a dewch gyda meddwl agored yn barod i ddod ymlaen os ydych chi’n meddwl bod y neges ar eich cyfer chi.”
Gyda chariad, chwerthin a chynhesrwydd Sally, mae’r sioe hon yn noson unigryw sy’n rhy dda i’w cholli. Archebwch eich tocynnau heddiw i weld y seicig ryfeddol yma wrth ei gwaith.
Sioe ymchwiliol at ddibenion adloniant yw hon.
-
Tickets / Tocynnau
£27.00
-
Schedule
Dydd Gwener 9 Mehefin, 2023 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
09 Mehefin 2023
7.30pm
Rhyl Pavilion