-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £30.00
RAVE ON
Rave On yw’r sioe gerddorol gyffrous sy’n sgubo ledled y wlad, yn cynnwys caneuon o’r 50au a’r 60au. Gan ddilyn hynt twf cyflym Roc a Rôl, mae Rave On yn mynd â chi ar daith wefreiddiol drwy’r degawdau mwyaf chwyldroadol ym myd cerddoriaeth. Byddwch yn barod i gael eich cyfareddu mewn noson o ganeuon poblogaidd, un ar ôl y llall, gwisgoedd lliwgar o’r cyfnod, llwyfannu bywiog, a digonedd o ddawnsio! Caiff Rave On ei berfformio gan grŵp o gerddorion ifanc talentog sydd ag obsesiwn â’r cyfnod ac mae’n cynnwys datganiadau â phob nodyn yn ei le o ganeuon mwyaf poblogaidd y 50au a’r 60au. O ddechreuad Roc a Rôl yn Sun Records ym Memphis, Tennessee i’r bandiau o Brydain a thu hwnt, dyma antur gerddorol nad ydych chi eisiau ei cholli. Mae Rave On yn cynnwys caneuon poblogaidd gan artistiaid fel Elvis Presley, Buddy Holly, Chuck Berry, The Beatles, Connie Francis, Neil Sedaka, Little Richard, Roy Orbison, Lulu, The Beach Boys a llawer mwy. Mae Rave On yn brofiad cerddorol unigryw, yn cynnwys perfformwyr blaenllaw o gynyrchiadau’r West End The Buddy Holly Story, Million Dollar Quartet a Dreamboats & Petticoats. Mae Rave On yn mynd â chi yn ôl i’r 50au a’r 60au mewn steil syfrdanol o unigryw.
-
Tickets / Tocynnau
£30.00
-
Schedule
Dydd Gwener 14 Tachwedd, 2025 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
14 Tachwedd 2025
7.30pm
Rhyl Pavilion