-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £30
Mae The Drifters ar daith unwaith eto yn y DU gyda sioe newydd sbon yn perfformio eu holl glasuron o’r chwe degawd diwethaf.
Mae’r grŵp chwedlonol wedi eu sefydlu yn Oriel Anfarwolion y byd Roc a Rôl, ac wedi eu rhestru ymhlith yr artistiaid gorau erioed gan gylchgrawn y Rolling Stone ac maent wedi cynhyrchu rhestr anhygoel o ganeuon, gan gynnwys Saturday Night at the Movies, Come On Over to My Place, Stand By Me, Under the Boardwalk a llawer, llawer mwy!
Nawr yn eu 65ain blwyddyn, mae The Drifters yn ôl yn perfformio gyda rhaglen o ganeuon wedi eu dewis gan Tina Treadwell ei hun – Llywydd Grŵp Adloniant Treadwell a pherchennog brand The Drifters.
Mae Tina, a fu’n gweithio’n flaenorol i Disney fel uwch gynhyrchydd a chyfarwyddwr castio, yn credu fod y rhaglen hon o ganeuon yn un o’r rhai gorau hyd yma ac mae’n edrych ymlaen at y daith sydd i ddod. “Rwy’n llawn cyffro fod gennym ni nawr yn ein 65ain blwyddyn sioe newydd ar gyfer y cefnogwyr yr ydym yn eu gwahodd i ymuno â ni i ddathlu stori The Drifters, sy’n stori anhygoel ac a fydd yn parhau am byth.”
-
Tickets / Tocynnau
£30
-
Schedule
Dydd Iau 17 Tachwedd, 2022 @ 7:30pm
-
Location / Lleoliad
17 Tachwedd 2022
7.30pm
Rhyl Pavilion