-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £28.50
Argymhellir ar gyfer rhai dros 18 oed
Ymchwilio i Lofruddwyr Cyfredol Mwyaf Drwg-Enwog y DU
Gyda’r Ditectif a ddaeth â’r llofruddiwr cyfresol PETER TOBIN o flaen ei well
Ymunwch â’r Ditectif o’r Alban, David Swindle am noson iasol a gwefreiddiol yn y theatr.
Cyfle i bobl chwilfrydig sy’n mwynhau clywed hanesion troseddol i archwilio’r achosion, yr amgylchiadau a safbwyntiau’r ditectif ynglŷn â beth ddigwyddodd mewn gwirionedd, yr arwyddion a’r rhybuddion cynnar a’r cliwiau y tu ôl i The Makings of a Murderer!
Cewch ddysgu am lofruddwyr cyfresol mwyaf adnabyddus Prydain – gan gynnwys Jack the Ripper, Peter Tobin, Harold Shipman, Peter Sutcliffe a chyplau sy’n llofruddio fel Fred a Rose West a llofruddwyr ‘The Moors Murderers’ – Ian Brady a Myra Hindley.
Bydd David hefyd yn edrych ar y cysylltiadau rhwng yr achosion llofruddiaeth mwyaf adnabyddus â’r ardal leol.
Gyda thros 34 mlynedd o brofiad fel uwch dditectif, bydd yn rhannu ei fewnwelediad unigryw i feddyliau’r llofruddwyr, beth oedd yn sbarduno’r llofruddwyr cyfresol drwg-enwog hyn, sut y cawsant eu dal, yr achosion adnabyddus na chafodd eu datrys a’r rheiny â chysylltiadau â’r ardal leol. . . gan rywun a oedd yn gwybod.
-
Tickets / Tocynnau
£28.50
-
Schedule
Dydd Iau 9 Tachwedd, 2023 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
09 Tachwedd 2023
7.30pm
Rhyl Pavilion