-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £23 consesiynau £1.50 i ffwrdd (f)
Mae dilynwyr y Beatles yn paratoi i gael eu syfrdanu gan hoff fand teyrnged y byd a anwyd yn Lerpwl i’r ‘Fab Four’.
Mae’r Mersey Beatles wedi bod yn rocio sioeau sydd wedi gwerthu allan o gwmpas y byd ers 1999, gyda’u dathliad gwirioneddol ddilys o John Paul, George, a Ringo, sy’n cael ei gymeradwyo’n eang.
Mae’r band – sydd wedi gwneud 600 o ymddangosiadau dros gyfnod o 10 mlynedd yn lleoliad enwog Lerpwl y Cavern Club – yn creu naws o ysbryd mewnol ac allanol y Pedwarawd gwreiddiol.
O’r gwisgoedd i’r offerynnau, ffraethineb profoclyd Sgows, ac wrth gwrs sain y Mersi sy’n cyfleu cyfnod, mae sioe lwyfan y Mersey Beatles yn ddathliad sy’n werth ei weld o gerddoriaeth a newidiodd y byd.
Dros ddwy awr fythgofiadwy, maent yn cymryd y gynulleidfa ar daith wefreiddiol o ganeuon enwog y Beatles, creadigrwydd seicadelig Sgt Pepper, i ryfeddod felodig a bywiogrwydd gwaith hwyrach y ‘Fab Four’.
Felly dewch yn llu ar gyfer y ‘Magical History Tour’ hon – a splendid time is guaranteed for all!
BETH YW’R FARN AM Y MERSEY BEATLES…
“Mae’r Mersey Beatles wedi taro’r hoelen ar ei phen gyda sain y Beatles. Mae ganddynt allu anhygoel i ddod â phobl ar eu traed i ddawnsio a byddai John wedi bod wrth ei fodd efo hynny!”
Julia Baird, chwaer John Lennon“Pan weles i nhw’n chwarae yn y Cavern, roedden nhw’n ail-greu’r awyrgylch roedd y Beatles gwreiddiol yn ei greu i’r dim. Roedd fel gwrando ar y Beatles unwaith eto.”
Joe Flannery, cymhorthydd rheolwr y Beatles, Brian Epstein
“Y band teyrnged gorau i’r Beatles erioed”
Clwb cefnogwyr Prydeinig y Beatles
“The next best thing to seeing the original group live.”
The Morning Call, USA
-
Tickets / Tocynnau
£23 consesiynau £1.50 i ffwrdd (f)
-
Schedule
Dydd Gwener 23 Medi, 2022 am 7.30pm
-
Location / Lleoliad
23 Medi 2022
7.30pm
Rhyl Pavilion