-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £26, £25
Y Sbloets Tina Turner Arobryn
Dewch i ddawnsio’n wyllt gyda Tina Turner gorau Prydain – Justine Riddoch – a’i chast dawnus .
Mae’r perfformiad yma’n ail-greu un o gyngherddau byw bythgofiadwy Tina Turner i ddathlu hanner canrif ers rhyddhau cân enwogaf y Frenhines Roc a Rôl, Proud Mary. Roedd agwedd Tina at y gân yn ysgubol ac yn ysgytiol a chafodd enw am gynnal perfformiadau byw syfrdanol – heb sôn am y coesau ’na at ei cheseiliau!
Dim ond tamaid i aros pryd oedd yr hits cynnar, fel River Deep – Mountain High a Nutbush City Limits. Wedyn daeth We Don’t Need Another Hero, Simply the Best, What’s Love Got to Do With It, I Don’t Wanna Lose You a When the Heartache is Over a gwthio Tina i blith sêr cyngherddau stadiwm.
Wedi’i chefnogi gan ei genethod dawnsio disglair yn eu secwins, plu a’u diemwntau, mae Justine yn ail-greu’r perfformiadau byw enwog hynny.
Dyma’r Tina ORUCHAF (y Gwobrau Teyrnged Cenedlaethol); mae ganddi’r pryd a gwedd, mae ganddi’r symudiadau ond, yn anad dim, mae ganddi’r LLAIS. Ymunwch â llu o selogion triw eraill ar gyfer sbloet gerddorol llawn hwyl!
-
Tickets / Tocynnau
£26, £25
-
Schedule
Dydd Gwener 21 Gorffennaf, 2023 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
21 Gorffennaf 2023
7.30pm
Rhyl Pavilion