Hygyrchedd y lleoliad
Mynediad i bobl ag anableddau:
Ar gyfer unrhyw anghenion arbennig, archebwch yn uniongyrchol gyda’r Swyddfa Docynnau fel ein bod yn gallu bodloni eich anghenion unigol. Mae croeso i gŵn cymorth.
Cyfleusterau Hygyrch:
Mae toiledau hygyrch ar gael ar bob lefel yn ein Theatr a’n Bwyty a Bar 1891
Defnyddwyr Cadair Olwyn:
Gallwn letya hyd at wyth defnyddiwr cadair olwyn yn ein Seddi Llawr.
Unigolion Byddar neu â Nam ar eu Clyw:
Mae gennym system cylch clywed ar gyfer y rheiny â nam ar eu clyw.
Parcio
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig maes parcio Talu ac Arddangos gyferbyn â’r theatr gyda lleoedd parcio’n arbennig i bobl anabl. Mae lleoedd parcio anabl cyfyngedig tu allan i’r theatr hefyd.
Bydd ffioedd parcio’n gymwys rhwng 8am – 5pm. (Ar agor yn ddyddiol rhwng 7am – 12am )
Mae’n rhaid i ddeiliaid bathodynnau glas dalu, ond byddant yn cael awr o barcio’n ychwanegol at yr amser a argraffwyd ar y tocyn talu ac arddangos.
Mawrth - Hydref | Tachwedd - Chwefror |
---|---|
1 awr £1.50 | 1 awr £1 |
4 awr £4 | 4 awr £1.50 |
Trwy’r dydd £5 | Trwy’r dydd £3 |
Wedi methu dod o hyd i beth roeddech yn chwilio amdano? Ar gyfer ymholiadau pellach – cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau yn uniongyrchol ar 01745 33 00 00.