1891 Bwyty a Bar
Bwyty chwaethus ar lan y môr y Rhyl.
Beth am wneud eich ymweliad â’r theatr yn fwy arbennig fyth drwy ymuno â ni yn ein bar a’n bwyty cyfoes i edmygu golygfeydd arbennig Arfordir Gogledd Cymru neu i wylio machlud yr haul ar noswaith braf drwy ein ffenestri enfawr sy’n ymestyn o’r llawr i’r to.
Mae’r enw 1891 yn cyfeirio at y flwyddyn y codwyd y Pafiliwn cyntaf ar bromenâd y dref. Ar yr adeg honno, roedd wedi’i leoli ar y Promenâd ar ben draw Pier y Rhyl, ond cafodd ei ddinistrio gan dân yn 1901.
Adeiladwyd yr ail Bafiliwn yn 1908 ac adeiladwyd yr un arall yn ei le yn 1991 sef y Theatr Pafiliwn Y Rhyl presennol. Mae’r theatr, sydd yn eistedd dros 1,000 o bobl yn cynnig ystod eang o gynyrchiadau sy’n ymweld, gan gynnwys Mrs Brown’s Boys, Chicago, Little Mix a John Bishop gan enwi ond ychydig. Cyngor Sir Ddinbych sydd y rheoli’r theatr a 1891.