-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £28.50
Sioe Motown yr American Four Tops
Ydych chi’n barod? Dyma nhw!
Yn uniongyrchol o’r UDA, mae Sioe AMERICAN FOUR TOPS Soul Satisfaction wedi teithio’r byd gan ddod â gwefr canu’r enaid a Motown i’w cynulleidfaoedd. Gyda lleisiau syfrdanol, harmonïau anhygoel a pherfformiadau dawns egnïol, byddwch yn mynd ar daith drwy holl ganeuon poblogaidd y Four Tops – Reach Out, Baby I Need Your Loving, Walk Away Renee, Same Old Song, Loco in Acalpulco, Standing In the Shadow, Bernadette, ynghyd â chlasuron eraill o’r oes aur, gan gynnwys caneuon gan y Temptations, Smokey Robinson and the Miracles, Marvin Gaye, Ben E King a llawer o arwyr Motown a chanu’r enaid eraill. Mi fyddwch chi’n dawnsio drwy’r nos!
Cafodd Soul Satisfaction y fraint o gwrdd ag Eddie a Brian Holland, y cyfansoddwyr a oedd yn gyfrifol am rai o ganeuon mwyaf llwyddiannus y Four Tops a’r Supremes. Meddai’r brodyr “mae’r grŵp yma’n wych, un o’r grwpiau gorau rydym ni wedi’u gweld ac mae Soul Satisfaction wir yn foddhad i’r enaid!”
Felly…. Ydych chi’n barod? Dyma nhw!
Peidiwch â cholli’r cyfle yma i’w gweld nhw!!
-
Tickets / Tocynnau
£28.50
-
Location / Lleoliad
04 Mawrth 2023
7.30pm
Rhyl Pavilion