-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £28.50
NOSON O FWRLESG
Noson o chwerthin, cabaret, dirgelwch a hudoliaeth
Dewch yn llu… noson ddisgleirwych o adloniant disglair – mae sioe fwrlesg mwyaf hirsefydlog y DU – yn ôl ac yn teithio ar hyd y wald Ac mae’n fwy nag erioed.
Ymunwch â ni am noson allan hen ffasiwn wrth i ni ddarparu’r sioe amrywiaeth orau posibl, gan gyfuno cabaret steilus, comedi, cerddoriaeth, syrcas a bwrlesg i ddeffro pob synnwyr.
Gyda diddanwyr o’r radd flaenaf a sêr y llwyfan a’r sgrin – paratowch am strafagansa o swyn a hudoliaeth! Disgwyliwch hwyl, plu a gwisgoedd hyfryd wrth i ni ddewis o’r detholiad gorau o artistiaid arbenigol, sêr cabaret a syrcas, comediwyr a sioeferched siampaen! Dyma’r noson berffaith i bawb.
Mae Noson o Fwrlesg yn llawn golygfeydd artistig sydd wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ers canrifoedd. Mae’r sioe amrywiaeth ryfeddol yma’n dod â digonedd o sêr hardd ynghyd ar gyfer sioe amrywiaeth heb ei debyg ar gyfer yr 21ain Ganrif! Disgwyliwch yr annisgwyl gyda digonedd o ddisgleirdeb a hudoliaeth! Mae hi’n amser am goctels a chabaret!
Noson o Fwrlesg – rydym ni’n aros amdanoch chi! Tocynnau ar werth rŵan!
-
Tickets / Tocynnau
£28.50
-
Schedule
Dydd Sadwrn 8 Gorffennaf, 2023 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
01 Medi 2023
7.30pm
Rhyl Pavilion