-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £33
Mae Bridesmaids of Britain wedi cyrraedd!
Y sioe ddigrifaf erioed sy’n addo i fod yn noson genod i’w chofio!
Mae Becky yn Forwyn Briodas ychydig yn rhy ffyddlon ac mae ei bywyd yn dechrau ymddatod wrth iddi arwain Sarah, ei ffrind gorau, ar daith wyllt i lawr y lôn at fywyd priodasol.
Mae pethau’n dechrau mynd o chwith go iawn wrth i Becky ddechrau cystadlu yn erbyn Tiffany, ‘ffrind am byth’ newydd Sarah, i brofi pwy ydi’r ffrind orau go iawn gan fygwth difetha’r holl gynlluniau mae Sarah wedi bod yn eu gwneud ar gyfer ei phriodas ers pan oedd hi yn yr ysgol gynradd.
Byddwch yn barod am gystadlaethau dawnsio a chanu, ac yn y diwedd, gweiddi, ym Mharti Plu’r Flwyddyn…. mewn carafán!!
Fydd ‘na ddiweddglo hapus i’r stori briodas hon, neu fydd y ffrindiau gorau’n tynnu ei gilydd yn ddarnau?
Bachwch eich ffrindiau, gwisgwch eich gardas a mwynhewch noson sy’n llawn o hwyl, chwerthin a dagrau (a mwy o chwerthin).
-
Tickets / Tocynnau
£33
-
Schedule
Dydd Mercher 11 Hydref, 2023 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
11 Hydref 2023
7.30pm
Rhyl Pavilion