-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau:
Oedolion £19.50, Plant £18.50, Tocyn Teulu £72 ( 2 oedolyn 2 plentyn)
Bydd angen i blant 12 mis a hŷn tocyn eu hunain
Milkshake! Live
Mae Milkshake! Monkey yn ôl ac mae o’n edrych ymlaen at gyflwyno sioe NEWYDD llawn hwyl a sbri i chi. Gyda Monkey, ei ffrindiau gorau a dau gyflwynydd Milkshake, hon fydd y sioe ddisgleiriaf erioed!
Ymunwch â Paddington, Daisy ac Ollie, Milo, Noddy, Pip a Posy a Blue’s Clues and You! Ac wrth gwrs Milkshake! Monkey am hwyl fythgofiadwy i’r teulu cyfan yn Milkshake Monkey’s Musical!
Cewch ganu a dawnsio gyda’ch hoff gyfeillion Milkshake! a gwylio wrth i’r gerddoriaeth, y goleuadau, y dillad a’r llwyfan ddod â Milkshake! yn fyw. Gyda’ch hoff ffrindiau Milkshake, mae unrhyw beth yn bosib.
Mae ‘na ddigonedd o chwerthin, hwyl a rhyngweithio â’r gynulleidfa i godi pawb ar eu traed! Dyma sioe deuluol y mae’n rhaid i chi ei gweld!
Cynhyrchir Milkshake! Live “Milkshake! Monkey’s Musical” gan Mark Thompson Productions Limited mewn partneriaeth â Channel 5 Broadcasting. Wedi’i ysgrifennu gan Miranda Larson gyda chyfarwyddyd creadigol a choreograffi gan Derek Moran.
-
Tickets / Tocynnau
Oedolion £19.50, Plant £18.50, Tocyn Teulu £72 ( 2 oedolyn 2 plentyn)
-
Schedule
Dydd Sul 6 Awst, 2023 @ 12pm & 3.30pm
-
Location / Lleoliad
06 Awst 2023
12pm & 3.30pm (Bydd angen i blant 12 mis a hŷn tocyn eu hunain)
Rhyl Pavilion