-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £45.00 GWERTHU ALLAN
PAENT A LLYMAID
LLEOLIAD: Caffi R, RHUTHUN
Dewch i ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiad Creu DLL cyntaf mewn partneriaeth âThe Paint Republic. Rydym yn eich gwahodd i fod yn greadigol, cymdeithasol a mwynhau noson gyda ffrindiau!
Nid oes angen profiad, y ffocws yw cael amser da a rhoi cynnig ar rywbeth newydd, a darperir yr holl gyfarpar. Cewch eich croesawu i Ganolfan Grefft Rhuthun a Chaffi R gyda gwydraid o broseco a bydd un o artistiaid dawnus Paint Republic yn eich tywys chi i greu paentiad hardd. Gallwch un ai ddilyn a phaentio’r un peth â’r artist neu fod yn greadigol a chreu rhywbeth eich hun! Byddwn yn darparu bwffe ysgafn i ysgogi creadigrwydd a gallwch brynu diodydd o Gaffi R.
Felly, os ydych eisiau darganfod eich creadigrwydd, rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu eisiau dechrau hen hobi unwaith eto, dewch i ymuno â ni am noson gelf anhygoel!
Dim ond £45 y pen, gan gynnwys diod wrth gyrraedd, bwffe ysgafn a holl gyfarpar paentio.
Dydd Iau 9 Mai o 7pm – 9pm yng Nghanolfan Grefft Rhuthun mewn cydweithrediad â The Paint Republic a Chaffi R.
-
Tickets / Tocynnau
£45.00
-
Schedule
Dydd Iau, 9 Mai, 2024 @ 7pm
-
Location / Lleoliad
09 Mai 2024
7pm
Caffi R, Rhuthun GWERTHU ALLAN