-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau:
Seddi’r Llawr Rhes A £33, Seddi’r Llawr B – K £31.50, Pob sedd arall £29.50
ROB LAMBERTI – Dathliad o Ganeuon a Cherddoriaeth George Michael
Artist teyrnged sy’n troi cornel arall. Dychmygwch y jiwc-bocs ganol llwyfan, y siaced ledr BSA eiconig honno a sain unigryw Mr George Michael wrth i’w droed ddechrau tapio ac wrth i’r gynulleidfa ddod yn fyw. 1987 oedd y flwyddyn. Dim ond 14 mlwydd oed oedd Rob ond newidiwyd ei fywyd gan y perfformiad ysbrydoledig hwnnw o ‘Faith’ ar Top of the Pops. Meddyliodd i’w hyn “Galla i wneud hynny!”. A dyna y gwnaeth. Roedd arwr wedi’i eni ac roedd artist teyrnged yn datblygu.
Ymlaen â ni chwe blynedd, ac ymddangosodd Rob ar deledu cenedlaethol ar ‘Stars in Their Eyes’ ac yngan y geiriau enwog “Heno Matthew, fi fydd … George Michael”. Dechreuodd y gerddoriaeth, tapiodd ei droed a pherfformiodd yr union gân yr addawodd i’w hun y byddai’n gwneud, ‘Faith’. Adleisiodd y perfformiad ar draws y wlad ac arweiniodd at ymholiadau a oedd yn caniatáu iddo fod yr artist y gwelwn o’n blaen heddiw.
Cyrhaeddodd Rob y ‘Ffeinal Byw’ a phaciodd ei fŵts blaen dur, gan adael ei waith fel llafurwr am yrfa o dan olau’r llwyfan. Wrth i’w hyder gynyddu ac wrth i’w enw da dyfu, yn fuan creodd Rob sioe fyw lawn yn deyrnged i’w arwr. Roedd hon yn sioe a ddaeth â sylw haeddiannol iddo a theithiodd newyddion am ei berfformiadau ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol ac o un person i’r llall gan ennill iddo’r teitl o brif artist teyrnged y diweddar a’r gwych George Michael.
O berfformio mewn tafarndai a chlybiau lleol i westai, digwyddiadau preifat a’r gylchdaith digwyddiadau corfforaethol, tyfodd enw da Rob a dechreuodd berfformio o flaen cynulleidfaoedd o enwogion gan gynnwys Chris Evans, Simon Cowell ac Elizabeth Collins gan fynd ag o i’r llwyfan rhyngwladol.
Aeth canmoliaeth y beirniaid â fo i Ewrop ac o fanno, buan iawn y dilynodd y galw ar draws yr Iwerydd yn yr Unol Daleithiau. Wrth rannu’r llwyfan gyda’r enw cyfarwydd, y cyflwynydd Steve Harvey, perfformiodd Rob “Father Figure” yn y rhaglen enwog Showtime at The Apollo, ac aeth yn ei flaen i ganu’n ecsgliwsif i Arlywydd yr Unol Daleithiau ei hun. Fodd bynnag, daeth yr anrhydedd mwyaf iddo pan gynigiwyd y perfformiad a wireddodd freuddwyd oes – gweithio gyda neb llai na’r dyn ei hyn, ar ran George i Sony Music i hyrwyddo’r albwm 25 Live. Rôl a fu’n hwb i’w yrfa ond ac a’i gysylltodd ymhellach â’i arwr. Mewn cyfweliad yn 2014, gofynnwyd i George os oedd o byth yn cael ei gamgymryd am unrhyw un arall, ei ateb syml oedd “Mae pobl yn aml yn fy nghamgymryd am Robert Lamberti, mae’n ymdebygwr George Michael”. Ewch i weld sioe Rob a byddwch yn deall yn union pam.
Ychydig iawn o artistiaid teyrnged sy’n dal talent gerddorol, carisma ac angerdd George mor agos â Rob Lamberti. Gyda rhai o gerddorion personol George Michael yn falch i ymuno â band Rob, mae ei berfformiadau yn sicr o’ch swyno a gwneud cyfiawnder ag un o gantorion a chyfansoddwyr gorau ein cyfnod. Gyda phob taith, mae’r sylw’n tyfu ymhlith y cyfryngau a’r gynulleidfa, gydag adolygiadau hynod ffafriol yn golygu ei fod yn gwerthu pob tocyn mewn lleoliadau gyda lle i dros 2000 o bobl. O ran ei yrfa, mae Rob yn byw ei freuddwyd, ond mae ei uchelgais yn cael ei thanio gan ddymuniad i lenwi un dyn gyda balchder a chyflawni’r perffeithrwydd yr oedd yn ei gyflawni mor ddiymdrech gyda phob perfformiad – ei arwr o a’ch arwr chi, y gwych George Michael.
-
Tickets / Tocynnau
£33, £31.50, £29.50
-
Schedule
Dydd Gwener 30 Medi, 2022 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
30 Medi 2022
7.30pm
Rhyl Pavilion