-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £29.00, consesiynau £27.00
SOMETHING ABOUT GEORGE
The George Harrison Story
Mae Something About George – The George Harrison Story yn deyrnged gerddorol am yr aelod “tawel” honedig o’r Beatles, ac mae’n ôl yn dilyn taith hynod lwyddiannus 2023 a oedd yn dathlu’r hyn a fyddai’n ben-blwydd George yn 80 oed.
“All Things Must Pass”, yn ôl y dywediad. Wel, bydd enw George Harrison yn para am byth. Gan grewyr Something About Simon – The Paul Simon Story, sioe newydd sbon a fydd yn ateb y cwestiwn, “i le yr ewch chi ar ôl bod yn y band gorau yn hanes y byd?”
Yn serennu’r actor a’r cerddor West End, Daniel Taylor, mae Something About George – The George Harrison Story yn adrodd hanes hynod un o eiconau mwyaf cynnil byd cerddoriaeth.
Mae’n cynnwys band pum darn sy’n perfformio caneuon hyfryd fel “My Sweet Lord”, “Something”, “Got My Mind Set On You” a “Handle With Care”, ac mae’r sioe’n cynnwys deunydd unigol anhygoel a cherddoriaeth gan grŵp mwyaf byd roc a rôl, The Travelling Wilburys – heb anghofio ambell glasur gan y Beatles hefyd. O dor-calon i hedoniaeth, ac o gyfansoddi i lwyddiant ar unwaith, bydd Something About George yn dangos bywyd i chi nad oedd yn dawel o gwbl.
BETH DDYWEDODD Y WASG…
“Something about George is a show that will be around in the years to come.”
Wirral Globe
“All songs were performed superbly pitch perfect, giving a moving and entirely beautiful tribute.”
The Broken Spine
“I loved everything about this show, thank You for giving us such a brilliant night of non-stop entertainment.”
Fairy Powered
-
Tickets / Tocynnau
£29.00, consesiynau £27.00
-
Schedule
Dydd Sadwrn 29 Chwefror, 2024 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
29 Chwefror 2024
7.30pm
Rhyl Pavilion