-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £30.00
THE 80’S SHOW
Siwrnai anhygoel drwy ganeuon mwyaf poblogaidd yr 80au
Byddwch yn barod i gamu yn ôl mewn amser ac ail fyw synau eiconig y cyfnod cerddorol gorau wrth i
THE 80s SHOW eich cludo ar siwrnai hiraethus, sy’n dathlu ac arddangos y
caneuon bythgofiadwy a oedd wedi diffinio cenhedlaeth, yn ogystal â chynhyrchiad gwefreiddiol!
O alawon pop heintus Duran Duran, Spandau Ballet a Wham! i’r anthemau
roc gan Bon Jovi a Tears for Fears, ynghyd â syrpreisys gwerth chweil, bydd y sioe hon
yn gwneud i bawb ddawnsio a chanu i’w hoff ganeuon o’r 80au.
Gan gynnwys cerddorion gwych, y sacsoffon ac offerynnau taro mae THE
80s SHOW yn addo perfformiad gwreiddiol ac egnïol a fydd yn dwyn
ysbryd y cyfnod. Mae’r artistiaid talentog hyn wedi astudio’r recordiadau gwreiddiol yn drylwyr,
gan sicrhau fod pob nodyn a sŵn yn cael ei ail-greu yn berffaith, gan ddarparu
profiad sioe fyw bythgofiadwy.
I gyd-fynd â’r gerddoriaeth anhygoel bydd THE 80s SHOW yn cynnwys darnau o ffilm ar sgrîn fawr
a sioe oleuadau a laser, a fydd yn ychwanegu i’r atmosffer ac yn
eich trochi i mewn i sioe hollol fythgofiadwy. Paratowch i gael eich syfrdanu wrth i’r llwyfan
ddod yn fyw gyda lliwiau llachar, a cherddoriaeth i gyd-fynd, wedi’u dylunio i’ch
cludo yn ôl i ddyddiau da yr 80au.
P’un ai’n blentyn o’r 80au, neu’n gwerthfawrogi cerddoriaeth ddiamser y cyfnod mae THE
80s SHOW yn ddigwyddiad sy’n rhaid gweld ac sy’n addo noson fythgofiadwy o
adloniant. Peidiwch â cholli cyfle i brofi hud bandiau mwyaf yr 80au,
gyda cherddorion anhygoel a phrofiad amlgyfrwng, yn ogystal â
sioe oleuadau wefreiddiol.
“Don’t miss it!” meddai Frankie.
-
Tickets / Tocynnau
£30.00
-
Schedule
Dydd Gwener 27 Medi, 2024 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
27 Medi 2024
7.30pm
Rhyl Pavilion