-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: Seddi’r llawr rhes A £19.50, Pob sedd arall £23.50
Goreuon Queen gyda The Bohemians
Mae’r perfformiad cynhwysfawr hwn i ail-greu caneuon mwyaf poblogaidd Queen ar dân!
Yn un o fandiau teyrnged Queen hynaf y DU ac sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, bydd The Bohemians yn mynd â chi ar daith emosiynol llawn egni yn eu cyngerdd. Bydd yn cynnwys cerddoriaeth, gwisgoedd a chrefftwaith un o berfformwyr roc mwyaf poblogaidd ac eiconig y byd erioed, Queen.
Caiff The Bohemians eu hadnabod fel “Band Teyrnged Queen mwyaf cyffrous y Byd”, mae’r egni a’r bwrlwm yn llifo drwy eu perfformiadau.
Bydd eu cynhyrchiad clyweledol, credadwy a bombastig o berfformiad eiconig Queen yn Wembley ym 1986 yn cydio ynoch chi o’r eiliad gyntaf, wrth i’r perfformwyr gyrraedd y llwyfan a gosod y safon gyda’r caneuon arbennig, One Vision ac A Kind of Magic. Mae pob un o’u clasuron penigamp wedi’u cynnwys, o ganeuon piano a harmonïau hudol eu blynyddoedd cynnar, megis Killer Queen a Don’t Stop Me Now, i’w hanthemau pop cofiadwy yn yr wythdegau.
Mae’r ail awr yn canolbwyntio ar y goreuon mwy diweddar ac, unwaith eto, yn hollol aruthrol.
Breakthru yw’r gân agoriadol ogoneddus a fydd yn cyflwyno’r gwisgoedd ar gyfer yr ail ran o’r sioe, sy’n cynnwys nodwedd newydd o sioe’r Bohemians, sef perfformiad slic o’r clasuron o ddiwedd yr wythdegau i ddechrau’r nawdegau. I want it all, The show must go on a Days of our lives, i enwi dim ond rhai.
Yn dilyn hynny, bydd y band yn ail-greu perfformiad enwog a gogoneddus Queen yn Live Aid, ac wrth gwrs, Bohemian Rhapsody – anhygoel. Bydd pob un ohonoch ar eich traed yn dawnsio, canu a chlapio wrth iddynt gloi’r sioe arbennig drwy ddychwelyd i Wembley ’86 ac ail-greu’r clasuron enwocaf, fel Radio Ga Ga, We Will Rock You a We Are the Champions. Diweddglo perffaith i sioe deyrnged hynod gofiadwy Band Roc gorau’r byd.
-
Tickets / Tocynnau
Seddi’r llawr rhes A £19.50, Pob sedd arall £23.50
-
Schedule
Dydd Gwener 14 Mehefin, 2024 @ 7.30
-
Location / Lleoliad
14 Mehefin 2024
7.30pm
Rhyl Pavilion