-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £30, £27, (f) Grwpiau 1 o bob 10 am ddim ar gael o’r swyddfa
Yn dilyn ei hymddangosiad gwefreiddiol yn rowndiau terfynol Britain’s Got Talent, fe fydd Belinda Davids yn dychwelyd i’r DU gyda’i sioe lwyfan sydd wedi derbyn llawer o ganmoliaeth.
Daw etifeddiaeth gerddorol Whitney Houston yn fyw yn y sioe deyrnged hon sydd wedi derbyn llawer o ganmoliaeth gan y beirniaid ac a ddisgrifir fel un “ysgubol a sy’n hollol gywir”.
Cewch eich syfrdanu gan lais cyfareddol Belinda Davids – artist sydd wedi cyrraedd brig siartiau RiSA yn ei gwlad enedigol sef De Affrica – a sydd wedi perfformio ochr yn ochr ag unigolion fel Keri Hilson, Keyshia Cole a Monica ac wedi ymddangos ar ‘Showtime at the Apollo’ ar sianel deledu Fox ac ‘Even Better Than the Real Thing’ ar BBC1.
Gyda band byw yn cyfeilio, cantorion cefndir a dawnswyr wedi eu coreograffu, yn ogystal ag effeithiau sŵn, goleuo, gweledol a theatrig o’r radd flaenaf, dyma deyrnged sydd wedi ei saernïo’n hyfryd i un o’r cantorion uchaf ei pharch yn y byd.
Bydd y cynhyrchiad dwy awr yn eich llenwi gyda hapusrwydd, hiraeth a rhyfeddod wrth i chi gael eich tywys ar daith drwy ganeuon mwyaf Houston gan gynnwys ‘I Will Always Love You’, ‘I Wanna Dance With Somebody’, ‘How Will I Know’, ‘One Moment in Time’, ‘I Have Nothing’, ‘Run to You’, ‘Didn’t We Almost Have It All’, ‘Greatest Love of All’, ‘I’m Every Woman’, ‘Queen of the Night’, ‘Exhale (Shoop Shoop)’, ‘Million Dollar Bill’ a llawer mwy.
Mae ‘The Greatest Love of All’ eisoes wedi swyno cynulleidfaoedd ar draws y DU, Ewrop, y Dwyrain Canol, Asia, De Affrica, Awstralia a Seland Newydd, ac mae’n parhau i dderbyn adolygiadau gwych ar draws y byd.
Fe fydd cynulleidfaoedd yn sicr yn dyheu am fwy yn dilyn y cyngerdd arbennig hwn, sy’n gyfle unwaith mewn oes, a bydd pobl yn siarad am y cyngerdd am flynyddoedd i ddod. Peidiwch â cholli’r cyfle i brofi hyn drosoch eich hun.
*Nid yw’n gysylltiedig ag Ystad Whitney Houston.
-
Tickets / Tocynnau
£32, £27, (f) Grwpiau 1 o bob 10 am ddim ar gael o’r swyddfa
-
Schedule
Dydd Gwener 7 Hydref, 2022 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
07 Hydref 2022
7.30pm
Rhyl Pavilion