-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £28.50
The Magic of Motown
Dathlu sain cenhedlaeth
Gwahoddir cefnogwyr cerddoriaeth i barti mwyaf y flwyddyn wrth i sioe Magic of Motown gyrraedd y dref! Wedi’i weld gan dros filiwn o bobl, nid yw’n syndod bod y sioe yn un o lwyddiannau mwyaf yn hanes theatr Prydain, hyd yn oed wedi perfformio ar gyfer Ei Mawrhydi y Frenhines fel gwesteion arbennig ym Mherfformiad y Royal Variety.
Paratowch eich hunain ar gyfer 40 o ganeuon enwog Motown, newidiadau gwisgoedd lliwgar, dawnsio syfrdanol a cherddoriaeth anhygoel yn y cyngerdd gwych hwn.
Cyfle i ddathlu sain cenhedlaeth wrth i gerddoriaeth ddiamser Marvin Gaye, Diana Ross, Stevie Wonder, The Temptations, The Supremes, Four Tops, Martha Reeves, Jackson 5, Smokey Robinson a mwy, gael ei ail-greu yn arbennig i chi gan gast a band hynod dalentog.
Mae’r cyngerdd ysblennydd hwn yn eich tywys ar daith gerddorol drwy eich hoff ganeuon, gan gynnwys: Ain’t No Mountain, Signed Sealed Delivered, Grapevine, Get Ready, Dancing In The Streets, My Girl, Blame It On The Boogie, Uptight, Endless Love, My Cherie Amor, All Night Long, Heatwave a llawer llawer mwy.
-
Tickets / Tocynnau
£28.50
-
Schedule
Dydd Iau 30 Mehefin, 2022 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad
30 Mehefin 2022
7:30pm
Rhyl Pavilion