
The Searchers Live In Concert
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £35.00
THE SEARCHERS LIVE IN CONCERT
‘THANK YOU’ TOUR 2024
Pan wnaeth The Searchers gyhoeddi eu bod yn rhoi’r gorau i deithio yn 2018, roeddent yn gadael llu o selogion a chefnogwyr brwd ar ôl oedd wedi’u syfrdanu a’u tristau na fyddent yn gallu mwynhau mwy o’r cyngherddau a’r caneuon oedd wedi dod yn rhan mor bwysig o’u bywydau dros chwe degawd.
Fe ddychwelon nhw yn 2023 ar gyfer beth oedd eu taith olaf, ond oherwydd llwyddiant ysgubol y daith honno, maent nawr wedi cytuno i ddychwelyd unwaith eto a byddant yn ymddangos yn rhai o’r sawl lleoliad nad oedd yn bosib ar y daith ddiwethaf.
Mae’r Searchers yn falch iawn ac yn ddiolchgar i’w dilynwyr a’u cefnogwyr sydd wedi’u cefnogi dros y blynyddoedd, am yrfa anhygoel a llwyddiannus.
Mae’r cyngherddau’n cynnwys y ffefrynnau o’r siartiau a mwy, sydd wedi’u gwneud yn atyniad mawr mewn theatrau ar hyd a lled y DU. Sweets For My Sweet, Needles & Pins, When You Walk In The Room, Goodbye My Love, Don`t Throw Your Love Away, Sugar & Spice, What Have They Done To The Rain. Llond llaw yn unig o’u tair cân ar ddeg i ymddangos yn y siartiau Prydeinig. Caneuon sy’n draciau sain i’n bywydau ni.
Peidiwch â cholli’r cyfle olaf i weld band sydd wirioneddol yn un o’r goreuon. Mae’r daith, ar gais The Searchers eu hunain, wedi cael teitl addas iawn. DIOLCH.
-
Tickets / Tocynnau
£35.00
-
Schedule
Dydd Iau 9 Mai, 2024 @ 7.30pm