Gwybodaeth Archebu – Sut i Archebu

Ar-lein

Mae gennym system archebu ar-lein 24 awr. Mae’n ddiogel ac yn hawdd ei defnyddio. Cliciwch ar ‘Prynu Tocynnau’ ar eich sioe ddewisedig a dilynwch y cyfarwyddiadau. Nodwch, nid yw pob sioe ar gael i’w phrynu ar-lein.

Ffôn

Gellir archebu tocynnau’n uniongyrchol dros y ffôn gan ddefnyddio ein llinellau ffôn – 01745 33 00 00 neu wyneb yn wyneb wrth ddesg ein Swyddfa Docynnau yn ystod oriau agor.

Oriau Agor y Swyddfa Docynnau

Dydd Llun – Gwener
10am – 4.30pm neu tan i’r llen godi ar nosweithiau perfformiadau

Dydd Sadwrn a Sul
ar agor 2 awr cyn perfformiad nes bod y llen i fyny, neu ar gau ar benwythnosau lle nad oes perfformiad.

Ffioedd Archebu

E-docynnau – Am Ddim
Tocynnau i’w casglu o’n Swyddfa Docynnau – £2 y pryniant
Tocynnau post – £2.50 y pryniant

Tocynnau Teulu

Mae nifer o’n sioeau yn cynnig tocyn teulu. Mae hyn yn caniatáu tocyn i 2 oedolyn a 2 blentyn (3-16 mlwydd oed) neu 1 oedolyn a 3 plentyn (3-16 mlwydd oed). Bydd angen uchafswm o 2 oedolyn ar gyfer gostyngiadau tocyn teulu bob amser.

Archebion Grŵp

Ffoniwch y Swyddfa Docynnau os ydych chi’n bwriadu gwneud archeb i grŵp o 10+. Fel arfer, mae modd i ni gadw’r tocynnau a chytuno i oedi’r taliad am gyfnod o amser.
Rhai perfformiadau’n unig sy’n gymwys i ostyngiadau ar docynnau grŵp .

Consesiynau

Mae consesiynau ar gael ar rai perfformiadau i’r rheiny dros 60 mlwydd oed, myfyrwyr, unigolion dan 16 mlwydd oed, ffrindiau, ysgolion ac unigolion anabl. Efallai bydd angen dangos tystiolaeth o’ch hawl. Mae modd i blant dan 3 eistedd ar lin oedolion, os oes angen sedd, yna mae’n rhaid ei phrynu.

Rydym yn cynnig tocynnau am ddim i gydymaith/gofalwr cwsmeriaid sy’n methu mynd i’r theatr ar eu pen eu hunain, ffoniwch y Swyddfa Docynnau am ragor o wybodaeth.

Gall gyfyngiadau oedran amrywio rhwng sioeau. Oni bai yr hysbysebir yn wahanol, isafswm oed ar gyfer plant ar eu pennau eu hunain yw 12 oed.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google