
DREAMBOYS
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: 5 Rhes Flaen £35, pob sedd arall £33
DREAMBOYS
18+ Oed
Paratowch eich hun am noson drydanol o bleser pur wrth wylio “Dreamboys: Stripped Back” 2024 Worldwide Tour. Byddwch yn rhan o’n sioe ddawns ffrwydrol, swynol wrth i’r Dreamboys fynd ar y llwyfan. Gadewch i’w hegni pur a’u carisma hudolus eich meddwi, wrth i chi ymgolli mewn taith sy’n deffro eich ffantasïau dyfnaf.
Byddwch yn barod i gael eich swyno am ddwy awr fythgofiadwy wrth i’r Dreamboys ddatgelu eu cyrff cyhyrog a chymysgedd hudolus o ddawns, cerddoriaeth boblogaidd a chyfranogiad y gynulleidfa.
Sicrhewch eich tocynnau rŵan am noson fythgofiadwy o adloniant swynol i ddeffro eich synhwyrau. Dewch i ymgolli mewn byd ble mae dyheadau’n dod yn fyw, ble mae ffiniau’n cael eu chwalu ac unrhyw swildod yn cael ei adael wrth y drws. Gyda phob symudiad pryfoclyd ac edrychiad mudlosg, bydd y Dreamboys yn tanio angerdd tanbaid fydd yn llosgi’n hir iawn wedi i’r llenni gau.
-
Tickets / Tocynnau
Front 5 Rows £32, all other seating £30
-
Schedule
Dydd Iau 3 Hydref, 2024 @ 8
-
Location / Lleoliad