MICHAEL STARRING BEN
The Magic of Michael Jackson
Ewch ar daith yn ôl mewn amser i gofio Michael Jackson – y dyn, y gerddoriaeth a’r hud.
Mae *Michael Starring Ben* yn sioe lwyfan lwyddiannus sy’n serennu Ben Bowman, y perfformiwr teyrnged gorau yn y DU i Michael Jackson. Nid yn unig y mae’n edrych ac yn swnio fel Brenin y Pop, ond mae wedi perffeithio ei berfformiad mor ofalus fel bod cynulleidfaoedd wir yn credu eu bod yn gwylio Michael Jackson ei hun.
Mae’r sioe yn cynnwys band byw, gwisgoedd syfrdanol a symudiadau dawns eiconig y perfformiwr. Mae hefyd yn cyflwyno’r caneuon mwyaf poblogaidd gan Michael Jackson a The Jackson 5, gan gynnwys *Beat It*, *Billie Jean*, *Thriller* a *Man in the Mirror*.
Sylwch fod hon yn sioe deyrnged nad oes ganddi unrhyw gysylltiad ag Ystad Michael Jackson, ac nad yw wedi’i chymeradwyo ganddi.






