Snow White & The Seven Dwarfs – P*ssed Up Panto
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £31.00
SNOW WHITE AND THE SEVEN DWARFS
P*SSED UP PANTO
Mae’r Panto gorau i oedolion yn ôl am daith arall o amgylch y DU – a thro Eira Wen a’r Saith Corrach ydi hi eleni i gael sylw gan griw P*ssed Up Panto®! Mae P*ssed Up Panto® wedi bod yn achosi hafog doniol ar draws y DU ers 2021 gyda’u cynyrchiadau o Aladdin, Jack and the Beanstalk, Sleeping Beauty a Cinderella – ac mae’r hafoc yn parhau gyda sioe newydd sbon ar gyfer 2027! Yn llenwi theatrau ar hyd a lled y wlad, mae P*ssed Up Panto® wedi perffeithio’r fformiwla panto perffaith i oedolion, gan adael cynulleidfaoedd yn crio chwerthin a theatrau yn atseinio gydag anrhefn dro ar ôl tro! Ond be’ yn union ydi P*ssed Up Panto®? Wel, os ‘dach chi erioed wedi meddwl beth mae cast pantomeim yn ei wneud pan nad oes plant yn gwylio… yna rydych chi hanner ffordd yna! Ychwanegwch at hynny bleidlais nerfus y gynulleidfa i benderfynu pa aelod cast anlwcus ddylai gwblhau her yfed trwy gydol y sioe (tra bod gweddill y cast yn ceisio cadw’r stori ar y trywydd iawn!), ac fe fyddwch chi’n sylweddoli’n sydyn y gallai unrhyw beth ddigwydd…ac mae’n debyg o wneud! Disgwyliwch yr holl gynhwysion o bantomeim clasurol – tywysoges hardd, brenhines filain, drych hud, a chriw o gorachod hoffus – ond gyda naws sy’n addas i oedolion yn unig. Mae’n llawn iniwendos pryfoclyd, actau comedi doniol, parodïau o ganeuon enwog a chyfranogiad y gynulleidfa – gan greu perfformiad doniol, direidus, sosi ac ychydig bach yn ddrwg… oce… drwg IAWN…! Gyda llu o berfformwyr pantomeim profiadol yn serennu, (ac un neu ddau o yfwyr proffesiynol hefyd), yn ogystal ag ensemble disglair, golygfeydd anhygoel, cerddoriaeth wych ac actau comedi doniol, mae hon yn siŵr o fod yn noson fythgofiadwy y bydd cynulleidfaoedd theatr yn siarad amdani am flynyddoedd i ddod! Cofiwch archebu’ch tocynnau yn ddigon buan gan fod tocynnau’r P*ssed Up Panto® yn gwerthu’n gyflym a does arnoch chi ddim eisiau colli allan! Sylwch: Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, themâu oedolion ac nid yw’n addas i bobl sy’n hawdd eu digio.
-
Tickets / Tocynnau
£31.00
-
Schedule
Dydd Sadwrn 28 Awst, 2027 @7.30pm
-
Location / Lleoliad



