
The World Famous Elvis Show
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £26.50 ddim consesiynau
‘The World Famous Elvis Show’ – gyda’r byd enwog CHRIS CONNOR!
Yn torri’r record ym mhob swyddfa tocynnau – YN SWYDDOGOL!
Wedi cael canmoliaeth uchel gan y Telegraph – ‘y sioe talu teyrnged i Elvis orau yn y byd’
Wedi’i henwi’r sioe Elvis orau yn y byd yn y bleidlais cefnogwyr byd-eang Elvis gyntaf o’i math sy’n cael ei threfnu a’i dyfarnu yn Memphis.
Meddai Joe Esposito (ffrind gorau a rheolwr teithiau Elvis) yn Memphis Tennessee –
‘wow mae’r bachgen ‘na’n dda – mae’n o’r un ffunud ag Elvis a chanddo’r un egni ar y llwyfan ”
Mae Martin Fontaine – (actor yn The Elvis Story) wedi dweud yn gyhoeddus –
“I mi Chris Connor ydi’r peth agosaf at y Brenin dw’i erioed wedi’i weld a’i glywed. Dw’i mewn sioc, mae’n wirioneddol anhygoel…..”
Dywedodd Jerry Shchilling (aelod o’r Memphis Mafia a ffrind agos) yn fyw ar y teledu yn Awstralia –
” Dw’i wedi bod yn dilyn gyrfa Chris Connor ac yn fy marn i does neb gwell nag o. ”
Seren a chynhyrchydd y sioe yw’r perfformiwr Elvis byd enwog CHRIS CONNOR sy’n cael ei gefnogi gan ei fand 12 aelod ‘THE STEELS’ a’i gantorion cefndir ‘ The Sweet Harmonies’ .
Cynhyrchiad mawreddog sy’n ail-greu dros ddwy awr ddau o gyngherddau mwyaf poblogaidd Elvis Presley.
Mae’r sioe’n ail-greu’n ddilys ac yn eu trefn ddau o gyngherddau Elvis ar ei orau ac mae’r seddi’n gwerthu’n gyflym ym mhob theatr!
Byddwch yn teimlo eich bod wedi’ch cludo’n ôl i’r gorffennol.
Os nad oeddech yn ddigon ffodus i weld Elvis yn fyw, byddwch yn gadael y cyngerdd hwn yn teimlo mai dyna wnaethoch chi. Mae llawer iawn o gefnogwyr Elvis wedi gadael y sioe’n teimlo’n emosiynol dros ben.
Does dim ond UN Elvis Presley ond mae ei gefnogwyr o amgylch y byd yn siarad am CHRIS CONNOR sydd mor anhygoel o debyg i Elvis mewn edrychiad, ymarweddiad a llais.
Meddai rheolwr Chris Connor, Lisa Matthews –
“Mae Chris wedi denu llu o ddilynwyr o bob cwr o’r byd. Dyn swil a diymhongar ydi o, ond unwaith mae o ar y llwyfan, Elvis ydi o ac mae’n rhywbeth rhyfeddol i’w weld. Mae Chris yn sicrhau bod ei deyrnged mor barchus a dilys â phosibl bob amser.
Ar ôl y sioeau mae’r gynulleidfa mewn sioc a dagrau oherwydd bod Chris mor anhygoel o debyg i Elvis mewn edrychiad, llais a symudiad.
Mae Chris wedi gweithio’n hynod o galed i ennill ei le fel Perfformiwr Elvis gorau’r byd ac mae’n ddiolchgar dros ben am gefnogaeth barhaus ei ddilynwyr o bedwar ban byd.
Crëwyd y sioe hon gan bobl sy’n caru Elvis ar gyfer pobl sy’n caru Elvis. Ddylech chi wir ddim methu’r sioe drydanol hon!”.
‘RHAID GWELD I GREDU’….
-
Tickets / Tocynnau
£26.50 ddim consesiynau
-
Schedule
Dydd Gwener 14 Hydref, 2022 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad